Lafa rhyolitig Ordofigaidd

480 miliwn o flynyddoedd oed

Roedd y lafa folcanig a roddodd fod i’r meini hyn yn cynnwys llawer o silica. ac oherwydd hyn llifai’n araf, gan grisialu yn aml cyn ymadael ag agorfa’r llosgfynydd. Dan ddylanwad gwasgedd cynyddol byddai’r llosgfynydd yn ffrwydro, gan hyrddio talpiau o lafa, ynghyd â chymylau o lwch, lludw a nwyon i’r entrychion, neu beri i’r malurion folcanig chwilboeth lifo ar i waered, fel yr hyn a ddigwyddodd yn hanes echdoriad Mount St Helens yn yr Unol Daleithiau ym Mai 1980. Wrth i’r malurion poeth ymgasglu ynghyd, weldiodd y llwyth, gan ffurfio craig a elwir yn dwff llif-lludw.

Mae’r graig silicaidd hon ac ynddi ddarnau onglog yn hindreulio’n araf ac yn ffurfio priddoedd asidig iawn, diwerth i ffermwyr ond wrth fodd grug (Calluna vulgaris).

Cen Hirhoedlog

Sylwch ar y cen crystiog, Buella aethalea. Gellir defnyddio’r cen hwn, sy’n tyfu’n araf, i ddyddio creigiau, yn yr un modd y gellir defnyddio cylchoedd coeden i ddyddio coed. Mae maint y cen wedi cael ei ddefnyddio i amcangyfrif cyflymder enciliad rhewlifau a dyddio tswnamïau hynafol.

O ble y daeth y meini hyn? Ger Trefgarn, Sir Benfro