Yr Athro Pete Wall

Ymddiriedolwr

Mae’r Athro Pete Wall yn ffisiolegydd clinigol. Mae wedi bod yn ymwneud â’r broses o ddilysu dyfeisiau meddygol yn glinigol ers bron i 40 mlynedd, gan weithio yn y GIG a’r byd academaidd, a dal swyddi uwch mewn corfforaethau gofal iechyd rhyngwladol.

Yn gyn-gadeirydd pwyllgorau moeseg ymchwil yng Nghymru, mae’n aelod o Banel Cynghori Cenedlaethol y Deyrnas Unedig ar Ymchwil Moeseg, ac yn gweithredu yn rôl adolygydd clinigol arbenigol yn ystod y broses gymeradwyo reoliadol ar gyfer dyfeisiau meddygol yn Ewrop. 

Ac yntau’n arddwr brwd, mae Pete yn adfer hen berllan gyda choed ffrwythau treftadaeth Cymreig a, gyda’i wraig, mae’n rheoli tyddyn cofrestredig.