Yr Athro Iain Donnison

Iain Donnison yw Pennaeth Athrofa’r Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig, Prifysgol Aberystwyth. Mae ganddo PhD o Brifysgol Caerdydd, ac mae’n Athro Gwyddor Planhigion gydag arbenigedd mewn glaswelltiroedd a chynaliadwyedd, y mae wedi gweithio arno ers dros 25 mlynedd.

Mae’n arwain grant Rhaglen Strategol Graidd y BBSRC ar Gnydau Gwydn, ac mae’n Gyfarwyddwr Canolfan Bioburo BEACON Cymru gyfan le mae academyddion ym Mhrifysgolion Aberystwyth, Bangor, Abertawe a De Cymru yn gweithio gyda chwmnïau yng Nghymru i ddatblygu cynnyrch o blanhigion.

Mae’n Aelod Cwmni o’r Annals of Botany, yr elusen sy’n rhedeg cyfnodolyn gwyddor planhigion hynaf y byd (Annals of Botany), a hefyd yn un o’i newyddiaduron (inSilico Plants).