Mae’r Ardd yn elusen ac yn cael ei llywodraethu gan Fwrdd o Ymddiriedolwyr. Mae swydd Ymddiriedolwr yn wirfoddol, a rôl y grŵp yw cefnogi’r Cyfarwyddwr wrth weithredu gweledigaeth a strategaeth yr Ardd.
Mae Tim yn byw yng Nghaint ond mae ganddo gysylltiadau cryf â Chymru ac mae ganddo arbenigedd a phrofiad cyfreithiol sylweddol yn y sector masnachol sy’n darparu prosiectau mawr ar gyfer llywodraethau, y sector gwirfoddol ac amgylcheddau cymhleth gyda nifer o hapddalwyr. Bu’n rhan ganolog yng Ngemau Olympaidd a Pharalympaidd 2012; Lloegr 2015 (gan drefnu’r cwpan byd rygbi). Ar hyn o bryd mae’n Gadeirydd Chwaraeon Mynediad.