Mae’r Ardd yn elusen ac yn cael ei llywodraethu gan Fwrdd o Ymddiriedolwyr. Mae swydd Ymddiriedolwr yn wirfoddol, a rôl y grŵp yw cefnogi’r Cyfarwyddwr wrth weithredu gweledigaeth a strategaeth yr Ardd.
Yn Gymro balch, treuliodd Steffan ei yrfa’n darparu cyngor ar gyfathrebu i fentrau, mudiadau a llywodraethau. Addysgwyd yng Ngholeg Lincoln, Rhydychen, ac mae e’n Ymddiriedolwr yr Hen Aelodau.
Mae e wedi priodi â dau blentyn, ac yn rhannu’i amser rhwng Llundain a Sir Gaerfyrddin. Mae ganddo angerdd dros rygbi, pysgota â phlu, a gwin (ond ddim o angenrheidrwydd yn y drefn hynny!). Mae e wedi gwasanaethu am fwy na 10 mlynedd fel Aelod o Fwrdd Gweithredol y PRCA,ac yn aelod o Bwyllgor Datblygu y Sefydliad Legatum, ac yn Ymgynghorydd Arbennig i Gyngor Busnes Iraq Prydain. Mae’n darparu cyngor ar gyfathrebu i nifer o elusennau’n rhad ac am ddim, ac mae’n siaradwr gwadd aml ar gyfathrebu.