Sarah Jennings

Ymddiriedolwraig

Sarah Jennings yw Cyfarwyddwr Cyfathrebu, Cwsmeriaid a Masnachol Cyfoeth Naturiol Cymru. Cyn dod i’r rôl hon, roedd yn Gyfarwyddwr Gweithredol ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda. 

Yn flaenorol, yn rôl Pennaeth Datblygu Economaidd Cyngor Sir Caerfyrddin, bu’n gweithio i ddarparu gwerth £450 miliwn o waith adfywio amlasiantaethol ledled y sir. Cyn hynny, bu’n gweithio am 12 mlynedd yn y sector preifat, yn Rheolwr Gyfarwyddwr (Ewrop) i Gorfforaeth o’r Unol Daleithiau.

A hithau’n fam sengl, sy’n gweithio, yn aelod o’r Ardd Fotaneg, yn ddysgwr Cymraeg ac yn breswylydd yn Sir Gaerfyrddin, mae Sarah yn awyddus i ddod â’i phrofiad a’i gwybodaeth i rôl Ymddiriedolwr.