Mel Doel OBE

Ymddiriedolwraig

Treuliodd Mel Doel 25 mlynedd yn ddarlledwr i’r BBC, lle bu’n rhoi sylw i straeon newyddion ledled Cymru.

Am 10 mlynedd, cyflwynodd raglen allweddol BBC Cymru ar faterion gwledig/yr amgylchedd, sef Country Focus. Am wyth mlynedd, roedd yn aelod a benodwyd gan Lywodraeth Cymru o Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, ac fe’i hetholwyd i rôl y Cadeirydd am y tair blynedd diwethaf. Bu hefyd yn Ddirprwy Gadeirydd Parciau Cenedlaethol y Deyrnas Unedig (National Parks UK).

Fe’i penodwyd gan y Gweinidog Cyfoeth Naturiol i’r gweithgor a oruchwyliodd adolygiad o Dirweddau Dynodedig yng Nghymru. Mae Mel yn rhedeg ei busnes ei hun, sy’n gwneud ffilmiau ar gyfer sefydliadau yng Nghymru, yn cynnig hyfforddiant ar y cyfryngau a gweddarlledu, ac yn hwyluso cynadleddau.

Dyfarnwyd OBE i Mel yn rhestr anrhydeddau pen-blwydd y Frenhines yn 2020 am wasanaethau i newyddiaduraeth, elusen a chymuned yng Nghymru.