Gary Davies

Gary Davies

Cadeirydd yr Ymddiriedolwr

Mae’r Ardd yn elusen ac yn cael ei llywodraethu gan Fwrdd o Ymddiriedolwyr.  Mae swydd Ymddiriedolwr yn wirfoddol, a rôl y grŵp yw cefnogi’r Cyfarwyddwr wrth weithredu gweledigaeth a strategaeth yr Ardd.

Penodwyd Gary yn gadeirydd ymddiriedolwyr ym mis Rhagfyr 2018.

Yn gyn Cyfarwyddwr Cyfamserol yn yr Ardd am bedwar mis yn 2016, Gary oedd pennaeth adran farchnata cyntaf yr Ardd pan agorodd.  Gadawodd yn 2001 i fod yn Brif Swyddog Gweithredol Partneriaeth Twristiaeth Ranbarthol De Orllewin Cymru.  Caewyd yr holl Bartneriaethau Twristiaeth Ranbarthol gan Lywodraeth Cymru yn 2014 a sefydlodd Gary ymgynghoriaeth mewn marchnata a rheoli cyrchfannau, a hefyd wedi gweithio fel pennaeth cyfamserol o weithredoedd ym Mharc Thema Oakwood.  Mae’n siaradwr Cymraeg rhugl ac mae’n byw ger Llandeilo.