Dr Natasha de Vere, Head of Science

Dr Natasha de Vere FLS

Pennaeth Gwyddoniaeth

Rôl y Pennaeth Gwyddoniaeth yw cydlynu rhaglen ymchwil gwyddonol yr Ardd.

Mae ymchwil yr adran yn canolbwyntio ar gadwraeth bioamrywiaeth, gan gynnwys codio-bar DNA holl flodau’r D, metacodiobar DNA er mwyn deall arferion chwilota gwenyn mêl a pheillwyr gwyllt, a geneteg cadwraethol planhigion sydd dan fygythiad.

Mae’r rôl yn ymwneud yn eang ag ymrwymiad y cyhoedd â gwyddoniaeth, gan gynnwys datblygu cydweithio rhwng y celfyddydau a gwyddoniaeth.   Mae’r Pennaeth Gwyddoniaeth yn arolygu tîm o ymchwilwyr sy’n israddedigion ac yn uwchraddedigion, ac yn gyfrifol am labordy molecwlaidd, llyfrgell, archifau, llysieufa a gwenynfa’r Ardd.

Rwy’n Bennaeth Gwyddoniaeth yng Ngardd Fotaneg Genedlaethol Cymru ac yn Uwch Ddarlithydd ym Mhrifysgol Aberystwyth. Rwyf wedi bod yn gyfrifol am raglen Gwyddoniaeth yr Ardd Fotaneg am y 12 mlynedd diwethaf, lle rydym yn canolbwyntio ar ddefnyddio offer genomig i warchod planhigion a pheillwyr. Rydym yn defnyddio metacodio DNA i ddeall dewisiadau chwilota peillwyr gwyllt a gwenyn mêl. Defnyddir dulliau genomig hefyd i helpu monitro a gwarchod planhigion a chynefinoedd sydd dan fygythiad.

Mae ymgysylltu’r cyhoedd a gwyddoniaeth yn rhan ganolog o fy ngwaith, yn arbennig gan ddefnyddio gwyddoniaeth celfyddyd  i archwilio syniadau gwyddonol. Rwy’n teimlo’n arbennig o gryf am swyddogaeth gymdeithasol Gerddi Botaneg ac rwy’n arwain y prosiectau ‘Tyfu’r Dyfodol’ a ‘Caru Natur Cymru’, sy’n ymroi i wella iechyd a lles pobl, bioamrywiaeth a’r amgylchedd ledled Cymru.

Yn ogystal â’r swyddi sydd gennyf yn yr Ardd Fotaneg a’r Brifysgol, rwy’n aelod balch o Gyngor y Gymdeithas Linneaidd ac yn Ymddiriedolwr i’r Ymddiriedolaeth Gwarchod Gwenwyn Meirch.

Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru

Mae Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru yn elusen sy’n ymroi i waith ymchwil a gwarchod bioamrywiaeth, cynaliadwyedd, dysgu gydol oes a mwynhad ei hymwelwyr. Agorwyd yr Ardd ym mis Mai 2000, ac ers hynny hi yw’r ardd sy’n denu’r nifer mwyaf o ymwelwyr yng Nghymru gyfan.

Mae yn yr Ardd dros 5000 o dacsa planhigion, gyda chasgliadau gwarchod pwysig  o blanhigion Cymreig, ynghyd â phlanhigion o ardaloedd sydd â hinsawdd Môr y Canoldir a chynefinoedd coedwigoedd tymherus. Cedwir y casgliad o blanhigion Môr y Canoldir yn y Tŷ Gwydr Mawr, a ddyluniwyd gan Norman Foster, a hwn yw un o’r tai gwydr un-rhychwant mwyaf yn y byd. Ymhlith y nodweddion eraill mae coedfa, gardd systemataidd, arddangosfa o blanhigion Cymreig, gardd cors, tŷ trofannol gyda phili-pala, a gardd gwenyn mêl gyda gwenynfeydd.

Mae’r Ardd Fotaneg mewn ystâd o 200 hectar sydd hefyd yn cynnwys Gwarchodfa Natur Genedlaethol Waun Las. Caiff y Warchodfa Natur ei rheoli fel fferm organig ac mae’n cynnwys dolydd  sy’n llawn blodau, coedlannau a llynnoedd.