Dr Lucy Sutherland

Cyfarwyddwraig

Ymunodd Dr Lucy Sutherland â Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru fel Cyfarwyddwraig ym mis Hydref 2022.

Mae Dr Sutherland yn ymuno â’r Ardd Fotaneg o’i swydd fel Ymgynghorydd Strategol i’r Gerddi Botaneg Frenhinol a’r Ymddiriedolaeth Domain sy’n rheoli Gardd Fotaneg Frenhinol Sydney, Gardd Fotaneg y Mynyddoedd Glas a Gardd Fotaneg Awstralia Mount Annan, ac mae’n weithredwr profiadol gyda gwybodaeth fyd-eang am erddi botaneg gyda hanes gyrfa gref o ddatblygu partneriaethau ac arwain ymgysylltu effeithiol iawn gyda rhanddeiliaid ar draws llywodraeth, diwydiant, y byd academaidd a’r sectorau dielw.

Mae Dr Sutherland yn Athro Anrhydeddus ym Mhrifysgol Adelaide a chyn hynny bu’n Gyfarwyddwraig y Gerddi Botaneg a Llysieufa’r Wladwriaeth yn Ne Awstralia, yn Gyfarwyddwraig Dros Dro Gerddi Botaneg Genedlaethol Awstralia ac yn Gydlynydd Cenedlaethol Partneriaeth Banc Hadau Awstralia.

Mae gan Lucy amrywiaeth o ddiddordebau y tu allan i’r sector amgylcheddol, gan gynnwys ei bod wedi gwirfoddoli i sefydliadau sy’n cefnogi ymfudwyr a ffoaduriaid a’r rhai â HIV/Aids, ac yn ddiweddar bu’n Gyfarwyddwraig Anweithredol ar Fwrdd Brodyr a Chwiorydd Awstralia, yn cefnogi brodyr a chwiorydd pobl ag anableddau. Mae Lucy hefyd yn angerddol am bensaernïaeth, treftadaeth, celf, llyfrau ac, yn amlwg, planhigion a gerddi!