Dr Helen Matthews

Ymddiriedolwraig ac Is-gadeirydd

Cafodd Helen ei phenodi yn Is-gadeirydd y Bwrdd ym mis Tachwedd 2022.

Wedi ei geni a’i magu yng Nghymru, cymhwysodd Helen i fod yn feddyg yng Nghaerdydd, gan wedyn arbenigo i fod yn seiciatrydd yn Llundain.

O 1998 hyd nes iddi ymddeol yn 2019, roedd Helen yn Seiciatrydd Ymgynghorol ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda. Oherwydd ei harweinyddiaeth broffesiynol ragorol, cafodd ei hethol yn is-lywydd Coleg Brenhinol y Seiciatryddion.

A hithau’n arbenigwr mewn salwch meddwl cymhleth, awtistiaeth ac anableddau dysgu, mae wedi dal llawer o rolau ymgynghorol i Lywodraeth Cymru, ac roedd yn Uwch-ddarlithydd Anrhydeddus yn Ysgol Feddygol Abertawe. Mae wedi canolbwyntio ar ddatblygu gwasanaethau yn y gymuned, gan gynnwys yn y Gymraeg, ei hiaith gyntaf, ac mae ganddi ddiddordeb arbennig mewn datblygu’r Ardd Fotaneg o safbwyntiau llesiant emosiynol, iechyd meddwl ac anabledd.

Mae Helen a’i theulu yn byw yn Nyffryn Tywi.