Mae Pennaeth Marchnata a Chyfathrebu yn rôl allweddol sy’n cefnogi cenhadaeth greiddiol, ethos a llwyddiant parhaol yr Ardd.
Gan gyfrannu’n eang ac yn rhagweithiol, yn strategol a gweithredol, mae’r rôl yn canolbwyntio ar drefnu digwyddiadau deniadol a chost-effeithiol a chalendr o weithgareddau, gan godi proffil bositif o flaen y cyhoedd a’r cyfryngau, ymrwymo ac annog ymwelwyr i’r Ardd, a sicrhau eu bod yn mwynhau.
Ymunodd David â’r Ardd, i ddechrau’n rhan amser ym Mehefin 2006, o bapur newydd y Carmarthen Journal, lle bu’n olygydd ers 2002. Hyd at hynny, roedd ei yrfa ym maes y cyfryngau lleol a rhanbarthol. Cyn hynny, bu’n Ddirprwy Olygydd ar y Gloucestershire Echo yn Cheltenham, ac hefyd yn gweithio gyda’r Evening Post ym Mryste. Ymunodd â staff yr Ardd yn llawn amser yn Awst 2007.
Yn ystod y cyfnod hwn, adeiladodd David berthnasau gwaith da a rhagorol i’r Ardd gyda phartneriaid ym mhob maes, gan gynnwys y cyfryngau print lleol a chenedlaethol, a fforymau garddio, ynghyd â byd teledu a radio.
Mae e nawr yn harneisio cyfathrebu yn y cyfryngau cymdeithasol a digidol gyda llwyddiant cynyddol, er mwyn codi proffil yr Ardd ac adeiladu ar ei chysylltiadau rhyngwladol.