Rob Thomas, Pennaeth Datblygiad yr Ardd, sydd wedi bod yn gyfrifol am geisiadau llwyddiannus am gyllid i’r prosiect ac mi fydd yn parhau fel Pencampwr y Prosiect. Ers mis Ionawr 2015 mae Rob wedi cael ei gefnogi gan y tîm Adfer Parcdir Godidog: Helen (Rheolwr y Prosiect); Louise (Cydlynydd Treftadaeth), Holly (Cydlynydd Estyn Allan, Addysg a Gwirfoddoli) a Rachael (Gweinyddwr y Prosiect); hwy sy’n rhedeg y prosiect o ddydd i ddydd. Ar ddechrau cam datblygol yr adfer cyffrous hwn recriwtiwyd tîm dylunio arbennig. Mae’n cynnwys Mann Williams (fel Ymgynghorydd Arweiniol sydd hefyd yn darparu peirianwyr sifil ac adeiladol) Nicholas Pearson Partnership (Cyd-ymgynghorwyr Arweiniol sydd hefyd mewn cytundeb i gyflawni’r Cynllun Rheolaeth Cadwraeth, gan ddarparu archaeoleg y tirlun). Mae’r gadwraeth o’r tirlun pwysig hwn hefyd yn cael ei gefnogi gan waith Caroe and Partners. Gan fod y prosiect yma yn cynnwys yr adferiad o lynnoedd sydd yn cael eu cyfri’n gronfeydd dŵr, mae dyluniad ac adeiladwaith unrhyw argae yn cael eu hasesu yn ôl meini prawf manwl peirianyddiaeth – ac mae gennym HR Wallingford, fel rhan o’n tîm dylunio, a Jonathan Hinks fel Peiriannwr y Cronfeydd Dŵr. Rydym yn ymroddedig i gynaliadwyedd ac mae gennym Troup Bywaters and Anders yn gweithio ar y posibilrwydd o gael ‘hydro-meicro’ ar draws ein nodweddion rheolaeth dŵr.
Mae Neuadd Middleton, a Pharc Dŵr Paxton yn gyfoethog o ran archaeoleg. I gefnogi’r gwaith dylunio ac adfer rydym yn gweithio gyda David Austin a Paul Everson, fel archaeolegwyr ymgynghorol ar dirwedd. Dros gyfnod o ddeg wythnos bu Ymddiriedolaeth Archaeolegol Dyfed yn cloddio yma. Mae’r holl broses yn cael ei werthuso gan Andrea Bradley Consulting.
A hefyd, ein gwirfoddolwyr! Byddem ar goll heb ein gwirfoddolwyr galluog a brwdfrydig. Mae Prosiect y Rhaglywiaeth yn cynnig, a bydd yn parhau i gynnig, cyfleoedd gwirfoddoli eang, yn cynnwys ymchwil i’r hanes, archifo, ecoleg, archaeoleg, arwain teithiau, gwnïo a dylunio gwisgoedd. Dilynwch y ddolen hon i’n tudalennau gwirfoddoli.