Blogiau'r Ardd

Peilliwr y dydd #7 – Teigr y Benfelen (Tyria jacobaeae)

gan

Mae Teigr y benfelen yn rhywogaeth niferus o wyfynod sy’n hedfan yn ystod y dydd. Mae’n hawdd tarfu arno yn ystod y dydd er ei fod hefyd yn hedfan yn y nos.  Daw enw’r rhywogaeth o’r mineralau sylffid arian byw sinabar a sinabarit.  Mae’r lindys hefyd yn arbennig ac yn hawdd ei adnabod wrth ei streipiau oren a du. Diben y lliwiau hyn yw bod yn fath o ddull rhybuddio, sef patrwm neu set o liwiau sy’n rhybudd i ysglyfaethwyr. Y rheswm am hyn yw bod lindys teigr y benfelen yn cael cemegolion gwenwynig o’r planhigion mae’n eu bwyta, fel creulys (Senecio spp.), sy’n gwneud iddo flasu’n annifyr iawn.

Er ei ystyrid yn rhywogaeth gyffredin ym Mhrydain, mae adroddiad Butterfly Conservation yn 2006 am gyflwr gwyfynnod mawr Prydain yn dweud bod y teigr benfelen wedi dirywio 83%, ac yn cael ei osod yn y dosbarth ‘Bregus’.  Er bod y newid rhyfeddol hwn yn debygol o gael ei achosi gan nifer o resymau, mae bron yn sicr fod y camsyniad fod ragwt yn wenwynig i dda byw yn cyfrannu at ei ddirywiad. Mae ffermwyr a thirfeddianwyr wedi eu hannog i ddileu’r planhigyn er mwyn lleihau perygl gwenwyno. Fodd bynnag, nid yw ragwt yn fawr o fygythiad i dda byw na phobl oni fydd llawer iawn ohono’n cael ei fwyta bob dydd, a’r unig berygl gwirioneddol yw pan fydd wedi ei sychu mewn gwair, lle bydd yn colli ei flas sur.  Gan fod lindys teigr y benfelen yn byw bron yn llwyr ar greulys, mae dileu hwnnw’n raddol o gefn gwlad yn fygythiad mawr i barhad y rhywogaeth hon.

I ddarganfod mwy am ein peillwyr, ymunwch yn Ŵyl y Peillwyr, Awst 24-26 2019.