21 Awst 2019

Peilliwr y dydd #5 – Chwilen Flodau (Oedemera nobilis)

Ardd Fotaneg · Botanic Garden

Roedd hon gynt wedi ei chyfyngu i ychydig safleoedd ym Mhrydain, ond erbyn hyn mae’n rhywogaeth gyffredin a niferus iawn. Bydd y rhai llawn dwf yn bwydo ar amrywiaeth helaeth o blanhigion ac yn enwedig y llygad llo mawr (Leucanthemum vulgare) a phlanhigion wmbelaidd (Apiaceae) a gellir eu gweld yn aml yn bwydo ar y rheiny yn yr Ardd.  Mae gan y rhai gwryw goesau ôl mawr, ond mae’r larfâu yn anodd eu gweld gan eu bod yn gallu cuddio’n dda mewn amrywiol blanhigion sych. Bydd yn gamp ichi ddod o hyd i un!

I ddarganfod mwy am ein peillwyr, ymunwch yn Ŵyl y Peillwyr, Awst 24-26 2019.