Mae gwenyn gwryw y rhywogaeth hon yn un o’n gwenyn hawsaf i’w hadnabod, gyda’u hantenâu hir iawn. Mae’n un o’r gwenyn sydd wedi dirywio fwyaf ym Mhrydain, a chollodd rannau helaeth o’i thiriogaeth gynt oherwydd colli’r cynefin segur llawn codlys sydd arni eu hangen. Mae hoff blanhigion y wenynen hon yn cynnwys ytbysen y ddôl (Lathyrus pratensis), ytbysen fythol lydanddail (Lathyrus latifolius) a phys y ceirw (Lotus spp.). Er mai gwenyn unig yw’r rhain, maent fel rheol yn nythu mewn grwpiau ar bridd moel ar lethrau sy’n wynebu’r de. Maent i’w gweld fel rheol mewn ardaloedd arfordirol fel Traeth Rhosili a Thwyni Cynffig, a gwelwyd yr un ddiwethaf yn Sir Gaerfyrddin yn 2005, nes iddi gael ei gweld ym mis Gorffennaf yn yr Ardd gan y fyfyrwraig PhD, Abigail Lowe. Mae hyn yn awgrymu nad yw’r wenynen hon efallai wedi ei chofnodi’n llawn mewn rhai ardaloedd.
SO excited to record a male Eucera longicornis at @walesbotanic. A Section 7 species this bee is one of Britain’s most declined bees and was last recorded in Carmarthenshire in 2005. (Photo for reference: credit @olds_liam) pic.twitter.com/2E2Y8EGxvP
— Abigail Lowe (@abigailjayne26) June 13, 2019
I ddarganfod mwy am ein peillwyr, ymunwch yn Ŵyl y Peillwyr, Awst 24-26 2019.