Blogiau'r Ardd

O blith ein pedair Taith Gerdded yn yr Ardd, hon yw’r fwyaf heriol

gan

Hyd: 2 filltir (3.2 km)

Amser: Un awr

Camau: 4,600

Calorïau: 210

Ddim yn addas ar gyfer cadeiriau olwyn na chadeiriau gwthio. Argymhellir gwisgo esgidiau awyr agored synhwyrol.

O blith ein pedair Taith Gerdded yn yr Ardd, hon yw’r fwyaf heriol. Mai dwy filltir o hyd yw’r daith, nid yw’n rhy bell. Yr hyn sy’n ei gwneud yn fwy heriol yw’r dirwedd – gall fod braidd yn fwdlyd, a bydd yn rhaid i chi gerdded i fyny llethr go hir hefyd. Yn wobr am hyn, cewch weld golygfeydd gwych, cwrdd â’n da byw cyfeillgar, ac efallai weld bywyd gwyllt, blodau gwyllt a ffyngau rhyfeddol ar Warchodfa Natur Genedlaethol Waun Las.

Gan ddechrau wrth brif fynedfa orllewinol y Tŷ Gwydr Mawr, bydd angen i chi ddilyn y pyst glas a’r saethau cyfeiriadol.

Bydd y rhain yn eich arwain i lawr y bryn, heibio’r Tarw (Tarw Du Cymreig), sef teyrnged gerfluniol ragorol gan y cerflunydd Sally Matthews o Lanfair-ym-Muallt i’r Gwartheg Duon Cymreig. Mae’r brîd hwn wedi bod yn pori yng Ngwarchodfa Natur Genedlaethol Waun Las am yr 20 mlynedd diwethaf, ac wedi ein helpu i amrywiaethu’r blodau gwyllt ar ein dolydd.

Yn agos at waelod y bryn, ewch yn syth ymlaen, gan ddilyn cyfeiriad y saeth las.

i chi groesi’r bont garreg, edrychwch draw i’r chwith. Dyma Llyn Mawr, un o’r llynnoedd o gyfnod y Rhaglywiaeth sydd newydd gael eu hadfer ac yr ydym yn gobeithio eu hagor i ymwelwyr yn ystod hydref 2020. Efallai y gwelwch ben bronwen y dŵr yn dod i’r golwg yn y nant sy’n llifo i’r llyn. Ewch trwy’r giât mochyn a byddwch ‘nawr yng Ngwarchodfa Natur Genedlaethol Waun Las – fferm organig weithredol, lle rydym yn annog blodau gwyllt a bywyd gwyllt i ffynnu.

Dilynwch y trac glaswelltog i’r ffermdy segur o’r 1930au. Ar un adeg, roedd y cae ar y chwith i chi yn gartref i deulu o fforwyr môr a wnaeth eu ffortiwn yn masnachu sbeisys o’r Dwyrain Pell – roeddent yn byw yma yn yr 1600au, mewn tŷ mawr yma o’r enw Neuadd Middleton. Byddai gerddi blodau addurnedig a ffownten wedi bod yn y cae ar y chwith i chi. Mae’r ddelwedd yn dangos cloddfa archaeolegol yma yn 2012.

 

 

 

Ewch trwy’r giât a dilynwch y trac i fyny’r bryn. Mae’n bosibl bod yr hen lwybr hwn yn gannoedd o flynyddoedd oed, a byddai wedi cael ei ddefnyddio gan deulu perchennog parc y Rhaglywiaeth, William Paxton, i farchogaeth eu ceffylau a’u cerbydau i fyny i Dŵr Paxton, sef y ffoli ar ben y bryn y byddwch yn ei weld yn uwch i fyny. Byddwch yn pasio derwen hynafol iawn ar y chwith i chi – sylwch pa mor drwchus yw boncyff y goeden – hon yw un o’n coed derw hynaf.

 

 

 

 

Yna byddwch yn pasio hen fwa carreg o’r enw Ffynnon Paxton. Ddau can mlynedd yn ôl, defnyddid hwn i reoli llif y dŵr i lawr i Neuadd Middleton, cartref William Paxton.

Ger y copa, mae yna fainc bren odidog y gallwch eistedd arni a mwynhau golygfeydd rhagorol o hen barcdir y Rhaglywiaeth. Sylwch ar y lluniau o blanhigion sydd wedi’u hysgythru ar y fainc – mae’r bengaled i’w gweld yn tyfu yn y fan hon yn yr haf.

 

 

Ar gopa’r bryn, trwy gwpl o giatiau mochyn, byddwch yn troi i’r dde ac yn cerdded ar hyd ael y bryn. Cyn bo hir, byddwch yn gweld golygfeydd rhagorol o’r Ardd gyfan, a bydd yn rhoi persbectif gwych i chi o’r modd y mae’r Tŷ Gwydr Mawr yn eistedd yn y dirwedd fel defnyn anferth o law.

 

 

 

 

 

Whorled Caraway

Cae Ceffyl yw’r cae nesaf, sef tir porfa gwlyb. Ddiwedd mis Mehefin ac yn ystod mis Gorffennaf, dylech weld planhigyn prin yma – sef y garwy droellennog, Carum verticillatum. Dyma flodyn sirol Sir Gaerfyrddin, a dim ond mewn rhannau bach o dde-orllewin Prydain y mae’n frodorol. Mae ein gwartheg duon Cymreig yn ein helpu i reoli’r brwyn yn y ddôl hon, gan ddarparu rhagor o le i’r garwy droellennog ymledu.

 

 

 

O’r fan hon, mae eich taith gerdded yn mynd i lawr y bryn ac ar draws porfeydd pori y gwartheg Duon Cymreig a’r defaid Balwen. Ar Cae Calc, mae yna fainc wedi’i gosod mewn lle rhagorol i chi orffwys a mwynhau’r golygfeydd draw at yr Ardd.

Ceisiwch gau eich llygaid a gwrando am 10 sain wahanol – mae’n anhygoel faint o wahanol synau sydd yng nghefn gwlad.

Sylwch ar y coed derw 200 mlwydd oed yn y cae hwn, a fyddai wedi cael eu plannu’n benodol i harddu’r dirwedd – roedd perchennog yr ystad ar y pryd, sef William Paxton, wedi rhoi ystyriaeth fanwl i’r dyfodol.

 

Colourful varieties of waxcap fungi

Ym mhen isaf Cae Calc, byddwch yn troi i’r dde i mewn i Cae Capiau Cwyr/Cae Waxcap. Mae’r llechwedd ar eich ochr dde o bwysigrwydd rhyngwladol o ran ffyngau cap cwyr – sef madarch amryliw sy’n cael eu lladd pan roddir gwrtaith artiffisial ar y tir. Oherwydd hyn, mae capiau cwyr wedi dirywio yn llawer o gefn gwlad Cymru, ond mae Cymru’n dal i fod yn un o’r lleoedd gorau yn y byd i weld ffyngau mor egsotig yr olwg. Yr amser gorau i’w gweld yn y fan hon yw yn yr hydref – mae’r ddelwedd yn dangos casgliad nodweddiadol o gapiau cwyr y gellir eu gweld yma. Rydym yn mynd ati’n benodol i bori defaid Balwen ar y cae hwn, a hynny er mwyn cadw’r tyfiant yn isel yn yr hydref a chaniatáu i’r gwynt ledaenu sborau’r madarch byr hyn.

O Cae Capiau Cwyr/Waxcap, trowch i’r chwith yn ôl heibio’r ffermdy o’r 1930au.

Mae’r cae ar y chwith yn rhan o arbrawf ar y funud. Yn 2019, bu i ni daenu gwair o ddôl llawn blodau gwyllt ar y tir porfa hwn, sydd â glaswellt yn tyfu arno’n bennaf. A fydd hyn yn helpu’r cae i ddatblygu i fod yn gyfoethog o flodau gwyllt? Bydd ein gwyddonwyr a’n gwirfoddolwyr yn ei fonitro’n fanwl. Rydym wedi llwyddo i drawsnewid caeau eraill ar Waun Las yn ddolydd llawn tegeirianau, ac wedi dechrau gwerthu’r hadau blodau gwyllt a gasglwn ohonynt.

Yn union cyn i chi adael y cae, edrychwch ar y pentwr o ganghennau coed ar y chwith i chi. Gall y rhain fod yn llawn ffyngau anferth ac egsotig yr olwg. Ewch trwy’r giât, ac mae’r Tŷ Gwydr Mawr yn union i fyny’r bryn.