Cynllun Sicrwydd Achub Peillwyr
Hoffech chi ddenu mwy o bryfed peillio i’ch gardd? Os felly, chwiliwch am blanhigion sy’n arddangos logo’r Cynllun Sicrwydd Achub Peillwyr yng Nghanolfan Arddio Y Pot Blodyn yn yr Ardd Fotaneg, ac mewn canolfannau garddio eraill a meithrinfeydd arbenigol.
Peillwyr yn lleihau
Mae pryfed sy’n ymweld â blodau yn beillwyr hanfodol i’r bwyd rydym ni’n ei fwyta, ac mae’r dirywiad dramatig yn eu niferoedd a’u hiechyd yn fater pryder mawr. Mae peillwyr yn amrywiol, gan gynnwys cacwn, pryfed hofran, gwenyn unigol, pili-pala a gwenyn mêl. Mae colli cynefinoedd llawn blodau, newid yn yr hinsawdd a’r defnyddio plaladdwyr wedi cael effaith fawr ar ein peillwyr gwyllt a’r rhai sy’n cael eu rheoli.
Sut galla i helpu?
Gall gerddi fod yn gwpwrdd bwyd cyfoethog o neithdar a phaill i bryfed peillio, ond pa rai yw’r planhigion gorau?
Yn aml nid yw’r rhestri cyfredol o blanhigion i beillwyr yn cael eu cefnogi gan ddata gwyddonol. At hynny, gall rhai planhigion sy’n cael eu gwerthu mewn canolfannau garddio gynnwys olion pryfladdwyr synthetig sy’n niweidiol i bryfed peillio. Caiff nifer eu tyfu hefyd gan ddefnyddio mawn wedi ei gloddio o fawnogydd sy’n gyfoethog yn ecolegol ac sy’n dirywio’n gyflym.
I fynd i’r afael â’r benbleth foesegol hon, mae prosiect Tyfu’r Dyfodol yng Ngardd Fotaneg Genedlaethol Cymru wedi datblygu Cynllun Sicrwydd Achub Peillwyr.
Mae’r planhigion sy’n arddangos ein logo Achub Peillwyr:
- wedi profi eu bod yn cynnal peillwyr gan ymchwilwyr gwyddonol yr Ardd Fotaneg
- wedi eu tyfu heb ddefnyddio pryfladdwyr synthetig na chompost mawn
Dim pryfladdwyr synthetig, dim mawn
Gall prynu planhigion a dyfwyd heb ddefnyddio pryfleiddiaid synthetig helpu i atal dirywiad yn niferoedd peillwyr, a bydd hefyd o fudd i fywyd gwyllt sy’n bwyta pryfed megis draenogod, adar y to a brogaod. Mae cloddio am fawn yn dal i ddinistrio ardaloedd helaeth o ecosystem sydd mewn perygl. Maen mawnogydd yn cymryd canrifoedd i ffurfio gan ddarparu cynefin unigryw i blanhigion a bywyd sydd mewn perygl.
Maen nhw’n helpu atal llifogydd trwy amsugno dŵr glaw ac atal newid pellach yn yr hinsawdd drwy storio carbon. Mae compost cynaliadwy heb fawn bellach ar gael yn hawdd, gan gynnwys yng Nghanolfan Arddio Y Pot Blodyn yn yr Ardd Fotaneg. Beth am roi cynnig arni?
Tystiolaeth DNA
Trwy ddadansoddi paill o gyrff peillwyr a samplau o fêl, mae gwyddonwyr yng Ngardd Fotaneg Genedlaethol Cymru yn defnyddio barcodio DNA i astudio pa blanhigion mae gwenyn mêl, pryfed hofran, cacwn a gwenyn unigol yn ymweld â hwy. Mae’r wybodaeth newydd hon yn helpu garddwyr fel chi i achub pryfed peillio – mae Cynllun Sicrwydd Achub Peillwyr wedi’i seilio ar y gwaith ymchwil blaengar hwn.
Mae gerddi yn dod yn llochesau cynyddol bwysig i bryfed peillio a bywyd gwyllt arall. Mae’r llyfryn hwn y gellir ei lawrlwytho yn rhoi awgrymiadau ar sut y gallwch ddenu mwy o bryfed peillio i’ch gardd.