Diogelu Peillwyr
Ry’n ni’n dibynnu ar wenyn mêl a pheillwyr gwyllt i beillio cnydau sy’n ein cadw ni’n iach, ond yn rhyngwladol mae poblogaethau peillwyr yn gostwng.
Mae pryderon byd-eang am ddirywiad yn niferoedd peillwyr gwyllt a gwenyn mêl fel ei gilydd, yn sgil colli cynefin, dwysáu amaethyddiaeth, plâu, clefydau a newid yn yr hinsawdd. Mae deall y rhesymau dros y dirywiad hwn a darparu canllawiau ar gyfer eu cadwraeth yn gofyn am wybodaeth fanwl am ofynion pryfed sy’n peillio, o safbwynt cynefin a’u dewis o ymborthiant.
Mae Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru yn aelod o’r Gweithlu Peillio a grëwyd fel rhan o Gynllun Gwaith Llywodraeth Cymru ar gyfer Peillwyr.
Ry’n ni’n defnyddio ein harbenigedd ar godio-bar DNA planhigion a’n hadnoddau garddwriaethol er mwyn ymchwilio hoff flodau peillwyr, gan gynnwys gwenyn mêl, cacwn, gwenyn unigol a phryfed hofran.
Trwy ddefnyddio codio-bar DNA er mwyn adnabod paill o fewn cyrff y peillwyr, gallwn ddarganfod ble mae gwenyn mêl yn ymborthi, pa blanhigion mae pryfed hofran yn ymweld â nhw, a beth yw ffynonellau blodeuol mêl. Os gallwn ni ddod o hyd i ba planhigion sydd fwyaf pwysig i beillwyr, yna gallwn ni helpu sicrhau bod y planhigion hyn ar gael yn amgylchfyd y peillwyr.