Rhowch gyfraniad
Rydyn ni’n elusen gofrestredig ac mae’r rhan fwyaf o’n cyllid yn dod o dderbyniadau wrth y glwyd, gwerthiant, llogi’r cyfleusterau a chynllun aelodaeth gwych yr Ardd Fotaneg.
Rydym yn derbyn cymorth ariannol gwerthfawr oddi wrth Lywodraeth Cymru ac yn parhau i chwilio am nawdd a grantiau oddi wrth amrywiaeth o sefydliadau i’n helpu ni i ddal ati.
Buom yn ffodus hefyd i dderbyn cyfraniadau hael oddi wrth sefydliadau ac unigolion, a byddem yn croesawu unrhyw gyfraniadau eto yn y dyfodol, bach neu fawr.
Os hoffech chi ein helpu i gadw planhigion prin, diogelu ein hetifeddiaeth ddiwylliannol fotanegol, ymladd yn erbyn newid yn yr hinsawdd ac ymestyn ein gwasanaeth addysg amgylcheddol, cliciwch yma. Bydd hyn yn mynd â chi i wefan trydydd parti lle gallwch chi gyfrannu at Ardd Fotaneg Genedlaethol Cymru.
Cyfrannwch i’r Ardd gyda Just Giving
Os oes diddordeb gennych mewn rhoi cyfraniad nawr, gallwch chi hefyd bostio siec at:
Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru
Neuadd Middleton
Llanarthne
Sir Gaerfyrddin
SA32 8HG
Diolch.