Treftadaeth
Yma yng Ngardd Fotaneg Genedlaethol Cymru rydym yn gofalu am dirwedd sydd wedi bod yn dyst i filoedd o flynyddoedd o weithgarwch gan bobl.
Cafodd y safle ar gyfer Gardd Fotaneg Genedlaethol newydd Cymru i groesawu’r mileniwm newydd ei ddewis, yn rhannol, oherwydd yr olion a oedd yno o enghraifft eithriadol o ‘ddylunio gardd’ ar raddfa enfawr. Y ‘dylunio gardd‘ hwn a ysbrydolodd y dewis hwn o safle yw’r cyfnod mwyaf adnabyddus mewn hanes sy’n cael ei gynrychioli yn yr Ardd. Cafodd ei gomisiynu a’i greu ar ddiwedd y 18fed a dechrau’r 19edd ganrif, cyfnod o chwyldro diwylliannol a newid cyflym yng Nghymru a’r byd ehangach. Roedd y boblogaeth yn cynyddu a’r chwyldro diwydiannol yn ei anterth, newidiadau gwleidyddol arwyddocaol a’r ‘Ymerodraeth Brydeinig’ yn dal i dyfu.
Roedd olion y cyfnod cymharol fyr ond gweladwy iawn hwn mewn hanes o gwmpas plasty mawreddog newydd William Paxton a gafodd ei ddinistrio mewn tân yn y 1930au. Mae hyn sydd ar ôl yn cynnwys llety’r gweision a’r morynion (y Tŷ Melyn erbyn hyn), adeiladau’r stablau, (caffe ac oriel a swyddfeydd nawr), rhewdy, yr ardd ddeufur gydag olion ei ‘Thŷ Eirin Gwlanog’. Ymhellach i ffwrdd mae’r muriau terfyn yn dangos ymyl y parcdir, a Thŵr Paxton yn y pellter ar fryn tua’r Gogledd, ac wrth gwrs y gadwyn o lynnoedd wedi’u creu’n artiffisial, sef canolbwynt parc dŵr ffasiynol Paxton o gyfnod y Rhaglywiaeth. Gan fod y parc dŵr nawr wedi ei adfer yn llwyr, mae’r rhan hon yn hanes yr Ardd yn dod yn ganolbwynt.
Fodd bynnag, yn ystod y gwaith adfer dangosodd ymchwil gysylltiadau helaeth rhwng y cyfoeth a oedd wedi creu, cynnal a datblygu Ystâd Middleton a chwmni East India. Daeth yn gynyddol amlwg fod cysylltiad sylweddol rhwng hanes safle Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru a phennod yn hanes Prydain ac Ewrop sy’n cael ei chydnabod yn eang yn anghyfiawn ac yn greulon. Mae yn hyn yn golygu edrych o’r newydd ar dreftadaeth tirwedd dwyllodrus o heddychlon, wrth inni i gyd dderbyn y niwed a wnaed gan weithredoedd y rhai oedd yn ymwneud â threfedigaethu a chaethwasiaeth. Fel Gardd, rydym yn gobeithio dysgu gan y gorffennol a chefnogi dyfodol gwell, i bobl ac i’r blaned.
Mae hanes yn aml iawn yn seiliedig ar fywydau adnabyddus unigolion cyfoethog, dylanwadol, ond rydyn ni am ddathlu mwy o dreftadaeth, ac mae cynifer o straeon cudd yn y dirwedd hon. Ynghyd â hanes ‘tirwedd ystâd’, mae yma hanes llawer hirach sydd â’i wreiddiau’n ddwfn yn y gorffennol. Nid sôn am un cyfnod neu berson neu le penodol y mae’r hanes hwn. Mae’n adrodd am gysylltiad maith Cymru â’r tir a threftadaeth ddiwylliannol gyfoethog yn seiliedig ar berthynas â phlanhigion a byd natur.
Mae hanesion am bobl nad oeddent hyd yn oed wedi’u cynnwys yn y llyfrau hanes yn fwy anodd eu darganfod. Heb y moddion i ymgymryd â rhaglen adeiladu helaeth neu ad-drefnu’r diwedd yn sylweddol, mae llai o’u hôl i’w weld. Yn aml byddent yn gadael eu marc mewn ffyrdd mwy cynnil, a’r dirwedd ei hun sydd â’r allwedd i ddarganfod eu hanes. Mae tystiolaeth o blygu cloddiau, magu stoc, rheoli gweirgloddiau a pherllannau wedi parhau yn y dirwedd leol, ar fapiau hanesyddol, mewn enwau lleoedd lleol ac yn atgofion y gymuned.
Mae deall sut oeddem yn rheoli’r tir yn y gorffennol yn gallu cefnogi dyfodol sy’n fwy cynaliadwy yn amgylcheddol. O ddefnyddio planhigion yn hanesyddol ar gyfer meddygaeth, hen fathau o afalau (rai ohonynt yn lleol iawn) yn ein perllan sy’n datblygu, cadw gwenyn a rheoli ein gweirgloddiau mewn ffyrdd traddodiadol ar gyfer pori ac ar gyfer blodau gwylltion, gofalu am ein cloddiau gan ddefnyddio dulliau traddodiadol, lleol o blygu cloddiau.
Y dreftadaeth hon yw’r cefndir diwylliannol sy’n gwau drwy’r gwaith a wnawn yma – yn tyfu’r cysylltiadau rhwng pobl, planhigion a’r amgylchedd ar gyfer y dyfodol.