Ffermio

Mae gan yr Ardd fferm 160 hectar sy’n gorwedd ar ei hymylon dwyreiniol a gogleddol

Wedi’i lleoli yng Ngwarchodfa Natur Waun Las, mae’r ardal ffermio yn cynnwys dolydd porfa, dolydd gwair a thir âr.  Rheolir y fferm nid yn unig fel fferm organig weithiol, ond hefyd fel un sy’n annog taenu planhigion gwyllt brodorol.

Ry’n ni’n defnyddio gwartheg duon Cymreig a bridiau Cymreig o ddefaid, ac mae’r amrywiaethau yn addas iawn ar gyfer y tir a’r tywydd, felly llwyddir i bori’r glaswelltydd gwlyb a sych.

Trawsffurfiwyd pedwar cae mawr yn ddolydd gwair traddodiadol yr ydym yn eu torri unwaith y flwyddyn yn unig,  a hynny’n hwyr yn yr haf.

Rheolir y fferm o ffermdy Pantwgan sy’n gorwedd ar ffin ogleddol safle’r Ardd.  Dyma’r lle mae’r defaid yn dod i wyna yn y gwanwyn, a ble mae’r gwartheg yn cysgodi rhag oerni’r gaeaf. Yn ymyl y fferm mae’r caeau lle ry’n ni’n tyfu cnydau tir âr er mwyn bwydo’r stoc yn y gaeaf, a lle ry’n ni’n ail-hadu mewn cylchdro er mwyn galluogi ein hanifeiliaid i bori’n ddwys.  Mae’r agwedd ddwys hon o’n ffermio yn ei gwneud hi’n bosibl i ni gynnal gyrroedd a phreiddiau mwy o faint.

Mae rhwydwaith o lwybrau sy’n rhoi cyfle i ymwelwyr i’r Ardd archwilio’r fferm yn hamddenol. Rheolir y fferm ac mae gennym gytundeb ffermio Glastir gyda Chyfoeth Naturiol Cymru.