Blogiau'r Ardd

Ein Garddwriaethwyr Gardd – Ayshea Cunniffe-Thomas

gan

Mae’n ddigon posibl bod ymwelwyr â’r ardd wedi sylwi ar ein garddwriaethydd, Ayshea

Mae’n aml yn cael ei gweld yn gyrru’r bygi garddio, gyda phlanhigion y mae wedi eu tyfu ei hun, i lawr i’n hardal Gwerthu Planhigion yn y Porthdy. Ei gwallt pinc sy’n sefyll allan – mae ei gwallt wedi bod yn binc trwy gydol yr amser y mae’r rhan fwyaf o’r staff wedi ei hadnabod, ac mae wedi bod gyda ni ers tua deng mlynedd bellach. Ond nid ei gwallt pinc yn unig sy’n sefyll allan, mae hi’n arddwriaethydd penigamp hefyd.

Ble cefaist ti dy fagu Ayshea?

Rwy’n byw mewn pentref ychydig y tu allan i Gaerfyrddin o’r enw Llan-gain. Ychydig flynyddoedd yn ôl, llwyddom i brynu’r tŷ lle cefais fy magu, ac felly dyma lle rydym yn magu ein plant ni ’nawr. Mae angen LLAWER o waith ar y tŷ a’r ardd, ond rydw i wrth fy modd yma. Mae’r golygfeydd yn anhygoel!

Wedi cael fy magu mewn ardal wledig, roeddwn bob amser yn hoff iawn o fyd natur. Rwy’n cofio mynd am droeon natur pan oeddwn yn yr ysgol gynradd a chael fy swyno gan y blodau a oedd yn tyfu yn y gwrychoedd. Byddwn yn mwynhau helpu fy nhad yn ein gardd lysiau, er mae’n debyg bod gen i fwy o ddiddordeb mewn bwyta’r pys na dim byd arall, a helpu fy mam yn ei thŷ gwydr lle roedd ganddi winwydden yn tyfu. Mae’r tŷ gwydr wedi hen ddiflannu ond mae’r winwydden yn dal i fod yno! Treuliwyd oriau gyda fy ffrindiau allan ar ein beiciau, yn adeiladu cuddfannau, yn mynd ar anturiaethau. Roedd yn amser mor hyfryd, di-hid.

Sut y bu i ti ddechrau gweithio ym myd garddwriaeth?

Roeddwn tua 17 oed, yn gweithio’n rhan-amser yn ein tafarn leol ac yn chwilio am waith llawn-amser. Roedd gan un o’n cwsmeriaid rheolaidd feithrinfa fasnachol, a chynigiodd swydd i mi dros yr haf. Un o’m tasgau cyntaf oedd ‘cymryd toriadau’. Dydw i ddim yn credu fy mod erioed wedi gweld hyn yn cael ei wneud o’r blaen, neu hyd yn oed yn gwybod ei fod yn bosibl. Dywedais ‘Beth?! Rydych chi’n cymryd y darn hwn o blanhigyn, yn ei osod yn y compost ac yn gwneud planhigyn arall?!?!’ Anhygoel! O hynny ymlaen roeddwn i wedi gwirioni! Roedd gweld rhes ar ôl rhes o’r planhigion plwg hyn yn anhygoel. Rhesi syth, yn rhoi cymaint o foddhad. Ac roedd gennym dîm mor wych, roeddem bob amser yn cael hwyl.

Unrhyw hyfforddiant arbennig?

Ar ôl gweithio mewn meithrinfeydd am ychydig flynyddoedd, roeddwn yn meddwl ei bod yn hen bryd i mi gael cymhwyster, felly i ffwrdd â fi i Goleg Garddwriaethol Pershore yn Swydd

Gaerwrangon. Es ati i wneud NCH, Meithrinfa. Ychydig flynyddoedd ar ôl hynny, euthum i CCTA, sef Coleg Sir Gâr erbyn yn, lle cwblheais fy HND mewn Garddwriaeth. Treuliais flwyddyn yn Longwood Gardens yn PA, yr Unol Daleithiau, lle roeddwn yn fyfyriwr rhyngwladol, yn cylchdroi trwy bob rhan o’r ardd. Roedd hwn yn gyfle gwych, a byddwn yn ei argymell i unrhyw arddwriaethydd ifanc. Mewn gwirionedd, byddwn yn argymell unrhyw fath o deithio; mae gweithio mewn lleoedd eraill yn cynnig cymaint o amrywiaeth i chi o ran sut y mae pethau’n cael eu gwneud yn wahanol, y ffordd y mae lleoedd yn cael eu rhedeg, a sut y gall cyllid – neu ddiffyg cyllid – effeithio ar y ffordd y mae sefydliad yn cael ei redeg. Ac, os ydych yn caru garddwriaeth ond nad ydych yn gwybod pa lwybr penodol yr hoffech ei ddilyn, rhowch gynnig ar bob un. Rwyf wedi bod yn ffodus i weithio yn y rhan fwyaf o sectorau’r diwydiant (ai dyna’r ymadrodd iawn?); fodd bynnag, gweithio mewn meithrinfa yw fy hoff faes. Cofiwch chi, cymerodd tua 15 mlynedd i mi sylweddoli hynny!

Beth yw prif rôl dy swydd?

Mae fy swydd wedi’i rhannu’n 50/50 (mae hyn yn hyblyg, yn dibynnu). Mae hanner fy ngwaith yn y twnnel polythen lle rydym yn tyfu planhigion ar gyfer gwahanol rannau o’r Ardd. Mae hyn yn golygu tyfu yn bennaf ar gyfer y Rhodfa a’r Ardd Ddeufur. Felly, planhigion lluosflwydd llysieuol yn bennaf, ond rhywfaint o hau hadau a lluosogi coed a llwyni. Rwyf hefyd yn goruchwylio’r gwaith o gynhyrchu ein planhigion ein hunain ar gyfer yr ardal Gwerthu Planhigion. Yna, wrth gwrs, mae’r holl brosiectau eraill rydyn ni’n ymwneud â nhw. Hau hadau o deithiau casglu planhigion, tyfu i gontract ac, wrth gwrs, y prosiect Ginkgo yr wyf yn hynod falch i mi fod yn rhan ohono. Rwy’n dal i gael diweddariadau rheolaidd ar sut mae ‘fy mabanod’ yn dod yn eu blaen, sy’n wych!

Rwy’n treulio hanner arall fy amser yn gofalu am ein prentisiaid. Fi yw eu haseswr ac rwy’n gosod gwaith ar eu cyfer, yn sicrhau eu bod yn dysgu ac yn cwblhau tasgau sy’n cyd-fynd â’r modiwlau C&G, ac yn cadw golwg arnynt yn gyffredinol. Rwyf bob amser wrth law i roi cyngor neu i’w helpu lle bynnag y bo modd, ac i sicrhau eu bod yn gwneud yn iawn ac yn mynd i’r cyfeiriad cywir. I mi, nid yw hyn yn ymwneud â’r ochr broffesiynol yn unig, mae gennym feddwl mawr o’n prentisiaid fel pobl hefyd, felly mae hyn yn cynnwys unrhyw beth lle gallai fod arnynt angen help. Rwyf bob amser ar gael, 24/7 os bydd arnynt fy angen.

Sut y mae’r coronafeirws yn effeithio ar dy waith?

I’r ychydig ohonom sy’n dal i weithio, mae’n ymdrech dda gan y tîm. Rydym i gyd yn gweithio gyda’n gilydd, mewn ffordd o siarad, wrth gwrs. Yn bersonol, mae wedi bod yn wych parhau i weithio, cael y mymryn hwnnw o normalrwydd. Ond fyddwn i ddim yn dweud nad yw’n anoddach, oherwydd mae yn anoddach. Byddaf yn hapus iawn i weld gweddill ein tîm ’nôl ar y safle, oherwydd nid yn unig y bydd yn ysgafnhau’r pwysau, rwyf hefyd yn gweld eisiau eu hwynebau i gyd, yn ogystal â’r tynnu coes a’r hwyl. Rydym yn dal i fod yn dîm hebddyn nhw, ond nid yn dîm cyflawn. Ac rwy’n siŵr y bydd Blue (Barnes-Thomas) yn cael haint o weld faint o courgettes fydd ganddo!

Ydy gweddill y tîm Garddwriaethol yn ymdopi’n iawn?

Mae pawb fel pe baent yn bwrw ymlaen â phethau. Beth arall allwn ni ei wneud? Mae’n amser mor rhyfedd. Ac er fy mod yn mwynhau heddwch a thawelwch yr Ardd i ddechrau,

’nawr, wrth weld y planhigion yn blodeuo ac yn edrych yn wych, rwy’n teimlo ei bod yn drueni na all yr ymwelwyr fod yma i weld y cyfan. Yn enwedig gyda’r tywydd gogoneddus rydyn ni wedi bod yn ei gael.

A elli di ddweud wrthym beth yw dy hoff blanhigyn ac, efallai, dy hoff ran o’r Ardd?

Mae fy hoff blanhigyn yn newid TRWY’R amser. Ar hyn o bryd rwy’n hoffi mynawyd y bugail. Yn anffodus, rwyf wedi darganfod bod fy ieir yn eu hoffi gymaint â mi. Wrth iddynt ddatblygu clwmp braf ac edrych fel pe baent ar fin cynhyrchu blodau, maent yn cael eu difetha gan y cnafon bach pluog! Felly, rwyf wedi gorfod buddsoddi mewn gorchuddion bambŵ i’w hamddiffyn. A cheisio peidio â phrynu rhagor o fynawyd y bugail neu, o leiaf, darganfod pa rai nad ydynt yn hoffi eu sglaffio. Fy hoff ran o’r Ardd yw ardal yr Ardd Wyllt y tu hwnt i’r Gwelyau Llechi, yn edrych dros y llynnoedd. Mae’n heddychlon allan yno, ac ardal nad ydw i’n ei gweld yn rhy aml. Felly, bob hyn a hyn, pan fyddaf mewn bygi am ba reswm bynnag, byddaf yn mynd am dro cyflym yno i weld beth sy’n digwydd, beth sydd wedi tyfu, ac i geisio gweld glas y dorlan. Rwyf wedi gweld glas y dorlan ddwywaith mewn bron deng mlynedd o weithio yma. Roedd y tro diwethaf tua chwe mis yn ôl, felly rwy’n falch o weld eu bod yn dal i fod o gwmpas.

Dywed ychydig am y partïon yr oeddet yn arfer mynd iddynt yn y Cwrt Stablau cyn i’r Ardd Fotaneg gymryd yr awenau

Roedd fy ffrind Mad Mark (sy’n dweud y cyfan, mewn gwirionedd) Richards yn berchen ar yr hyn sydd bellach yn siop anrhegion a’r swyddfa farchnata uwchben. Roedden ni’n arfer cael partïon yn lle Mark. Fodd bynnag, os ydych chi am gael unrhyw fanylion, byddai’n well i chi siarad â Mad Mark gan fod ei gof yn llawer gwell na fy un i! Ond gallaf ddweud un peth, mae yna ysbryd yn y Cwrt Stablau, yn bendant …