
- 15th Feb 2017
Pennaeth o Fasnachu a Derbyniadau (llawn-amser, Cyfnod Mamolaeth) yng Ngardd Fotaneg Genedlaethol Cymru
Mae hwn yn gyfle cyffrous a heriol i fod yn rhan bwysig o dîm bywiog a brwdfrydig iawn, sy’n gweithio i hybu proffil a chyflawniadau un o’r cyrchfannau mwyaf eiconig yng Nghymru. Mae Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru yn gwneud gwahaniaeth mawr i gadwraeth, addysg, cynaliadwyedd, a mwynhad yr ymwelwr. Darganfyddwch mwy drwy archwilio’n gwefan https://garddfotaneg.cymru/
Mae hon yn swydd sy’n creu incwm o fewn y Tîm Rheolaeth Masnachu. Rydych yn debygol o wedi gweithio o fewn y diwydiant masnach ar lefel rheolaeth, gyda gallu profedig o ysgogi staff, yn gweithio gyda lefel uwch o gyfrifoldeb ac atebolrwydd annibynnol. Bydd gennych chi sgiliau cyfathrebu ysgrifenedig a rhyngbersonol ardderchog, yn ddymunol gyda rhuglder yn ysgrifenedig ac ar lafar yn y Gymraeg, ac yn mwynhau gweithio gydag eraill i ddatblygu perthnasoedd positif ar bob lefel. Mae dawn ac ymddygiad cyflawn yn hanfodol, felly mae yna botensial i’r unigolyn gyda’r potensial iawn i gynyddu eu gallu ac i dyfu i mewn i’r swydd os ydynt yn ymroddedig yn bersonol i hyfforddiant pellach.
AMLINELLIAD O FANYLION Y SWYDD
Yn dechrau o’r dyddiad cynharaf a ellir trefnu, mae hon yn swydd dros dro llawn-amser am gyfnod mamolaeth. Mae yna ddisgwyl i’r drefn gweithio fod yn 37.5 awr yr wythnos (hyblyg). Y cyflog (presennol) yw £23,234 y flwyddyn.
Croesawir ymholiadau anffurfiol a dylai’r rhain eu ddanfon i Charlotte Lumby – charlotte.lumby@gardenofwales.org.uk.
Dylai ceisiadau, fel copi electronig ac mewn ffurf llythyr cais a CV yn dangos yn glir sut yr ydych chi’n cwrdd â’r meini prawf, cael eu danfon gyda manylion o ddau ganolwr, i Charlotte Lumby – charlotte.lumby@gardenofwales.org.uk erbyn Dydd Mercher, 15eg o fis Chwefror. Disgwylir i gyfweliadau ddigwydd ar Ddydd Iau, 23ain o fis Chwefror.