21 Mai 2013

Medal Arian yng nghanfed Sioe Flodau Cymdeithas Arddwriaethol Frenhinol Chelsea

Bruce Langridge

Mae gardd grefftwr, ‘Brysiwch Wella’, Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru, wedi ennill Medal Arian yng nghanfed Sioe Flodau Cymdeithas Arddwriaethol Frenhinol Chelsea.

Meddai’r Gyfarwyddwraig, Dr Rosie Plummer: ”Ry’n ni wedi’n gwefreiddio ein bod ni wedi ennill medal arian gyda’n gardd gyntaf i gystadlu yn Chelsea. Ry’n ni’n ardd fotaneg ifanc, ac yn dîm bychan ar gyllid tynn, ac felly mae hwn yn orchest ardderchog am fenter cychwynnol.”

Mae ‘Brysiwch Wella’ yn dangos yr amrywiol ffyrdd y gall gardd a’i planhigion wella eich iechyd trwy gyfrwng ffurfiau hynafol, traddodiadol, modern ac amgen o feddygaeth.

[nggallery id=343]Talodd Dr Plummer deyrnged arbennig i’r cynllunwyr, Maggie Hughes a Kati Crome, sydd wedi gweithio’n ddiflinio i gynhyrchu gardd gwir syfrdanol:  “ Mae Maggie a Kati wedi gwneud gwaith penigamp.

Gobeithio eu bod nhw yr un mor falch a bodlon ag ry’n ni.  Ry’n ni wedi cael adwaith aruthrol o dda o’r bobl yma yn y sioe – mae e’n wirioneddol rhyfeddol.”

 

Diolchodd Dr Plummer hefyd i noddwyr gardd ‘Brysiwch Wella’:  Penn Pharma o Dredegyr; Partneriaeth Twristiaeth De-Orllewin Cymru; Tyfu’r Dyfodol; a phawb arall sydd wedi cyfrannu at lwyddiant yr ardd, yn enwedig y tîm a lafuriodd yn hir ac yn galed dros gyfnod o 10 diwrnod cyn y sioe.

Dywedodd un o’r cynllunuwr, Maggie Hughes:  “Bydden ni wedi hoffi Gwobr Aur wrth gwrs, ond yr hyn sy’n bwysig yw bod y cyhoedd wedi hoffi’r ardd yn fawr.”

“Ry’n ni wedi cael adborth arbennig o dda.”