Troed-y-golomen Orllewinol

Aquilegia formosa

Mae’r planhigyn hardd hwn wedi’i ddefnyddio at sawl diben gan frodorion Califfornia.

Gellir rhwbio’r gwreiddiau ffres wedi’u pwnio ar gymalau rhiwmatig poenus. Gellir rhoi powltis o wreiddiau neu ddail wedi’u cnoi ar bigiadau gwenyn a briwiau.

Am gael gwybod mwy?

• Mae rhai pobl yn bwyta’r blodau, sy’n llawn neithdar, ac yn eu rhoi mewn salad.
• Mae’r hadau’n aromatig ac roedd arfer o’u malu’n fân a’u rhwbio ar y corff fel persawr.
• Fe’u defnyddir hefyd i gael gwared ar lau o’r gwallt.