Os ych chi’n hoff o diwlipau, dewch i’r Ardd Ddeu-fur yn y gwanwyn. Fel rhan o’n harddangosfa ar Esblygiad Planhigion Blodeuol, ry’n ni’n dangos amrywiaeth o rywogaethau meithrinol o diwlipau yma. Dyma’r mathau sy’n parhau fel y dymuna natur; maen nhw’n hanu o gadwyn o fynyddoedd yng Nghanolbarth Asia, ac yn amrywio’n fawr o ran ymddangosiad, lliw a strwythur.