Bydd rhyw lama, druan, neu anifail arall sydd â chôt wlanog, yn cael ei ddal ar bigau miniog y planhigyn hwn ac yna’n ara bach bydd yr anifail yn llwgu. Wrth i’r corff bydru, bydd y puya yn gwneud defnydd o’r maeth yng ngweddillion yr anifail, fel gwrtaith iddo.
Mae’n blanhigyn lluosflwydd, bythwyrdd sy’n araf i flodeuo. Cymerodd y puya yn y Tŷ Gwydr Mawr ddeng mlynedd cyn blodeuo am y tro cyntaf.