Protea Brenhinol

Protea cynaroides

Mae’r Protea yn rhywogaeth o blanhigyn sy’n tyfu yn Ne Affrica yn unig. Mae llawer ohonyn nhw yn gain ac yn brydferth iawn yn eu blodau, ac maen nhw’n awr yn gnwd pwysig ar gyfer y diwydiant gwerthu blodau yn rhyngwladol.

Y Protea Brenhinol yw blodyn cenedlaethol Gweriniaeth De Affrica. Ry’n ni’n ffodus yn yr Ardd i gael enghreifftiau aeddfed rhyfeddol o’r blodyn hwn yn ein meddiant, sy’n blodeuo’n rheolaidd yn y Tŷ Gwydr Mawr.

Mae’r blodau godigog hyn yn eu hanterth o fis Mawrth ymlaen.

  • Y Tŷ Gwydr Mawr

    Gyda’i fwa hynod drawiadol, hwn yw’r tŷ gwydr un-rhychwant mwyaf yn y byd