Os y’ch allan yn gwersylla ac yn cael trafferth cynnau tân, bydd y ffwng hwn yn ddefnyddiol iawn. Fe’i canfyddir ar frigau marw’r onnen yng Nghoed Trawscoed, ac os yw’n sych fe’i cynheuir gan wreichionen, a bydd yn llosgi’n araf.
O agor pelen gyda chyllell, gallwch weld cylchoedd consentrig y tu fewn – sy’n esbonio ei enw Lladin. Efallai hefyd y gwelwch bryfed yn byw ynddi.