Mae peiswellt bywhiliog yn laswellt rhyfedd iawn a welir yn Eryri ar fryniau dros 1,000 troedfedd.
Ceir planhigion bach o laswellt yn tyfu arno yn lle blodau, sy’n rhoi golwg unigryw iddo – nid oes glaswellt arall yn debyg iddo yng Nghymru.
Yn yr arddangosfa Gwarchod Planhigion Cymru fe ddowch o hyd iddo yn y gwely a ddynodir fel Cwm Idwal.