Narcissus ‘Parisienne’

Narcissus ‘Parisienne’

Cafodd ‘Parisienne’ ei fridio yn yr Iseldiroedd cyn 1961, ac mae’r petalau gwynion llydan yn bywiocau lliw oren dwfn y canol.

Os edrychwch yn fanylach, gwelwch fanylion mwy cain y blodyn deniadol hwn: mae blaenau bach main i’r petalau, ac o gwmpas y canol oren mae ffriliau cywrain. Yn y canol mae’r nodweddion gwryw sy’n cario’r paill (y brigerau) a’r nodweddion cenhedlu benywaidd (y stigma) i’w gweld yn amlwg.

Lleoliad: Gardd Wallace