Meillionen Goch

Trifolium pratense

Tua 150 mlynedd yn ôl, roedd Charles Darwin wedi cyflawni arbrawf diddorol. Roedd wedi gorchuddio 100 o flodau’r feillionen goch a gadael 100 heb eu gorchuddio.

Wythnosau’n ddiweddarach fe gyfrifodd 2700 o hadau ar y pennau nad oedd wedi’u gorchuddio a dim ond un ar y rhai a orchuddiwyd.

Pam? Fe wnaeth ddarganfod fod angen gwenyn i beillio’r feillionen goch. Ar Waun Las mae gennym lawer o feillion cochion a llawer o wenyn, felly mae’r gwyddonwyr sy’n eu gwylio wth eu boddau.