Tyfir mahonia am ei ddail deniadol, a’r blodau persawrus, rhwysgfawr, o liw melyn llachar sy’n ymddangos rhwng Tachwedd a Mawrth. Fe’u dilynir gan ffrwythau du-glas sy’n fwytadwy.
Mae’n well gan y llwyn hwn gysgod rhannol a phridd a ddraeniwyd yn dda.