Mae’r Ardd yn gartref i 250,00 o wenyn mêl yn gwneud eu gwaith dyfal o gwmpas wyth cwch gwenyn sy’n cael gofal gan dîm o wirfoddolwyr.
Bydd y rhan fwyaf o’r ffrwythau a’r llysiau a dyfir yn yr Ardd Ddeu-fur yn cael eu peillio gan y gwenyn mêl. Byddant hefyd yn brysur yn casglu neithdar a phaill o’r blodau gwyllt yng Ngwarchodfa Natur Waun Las, heb sôn am lawer iawn o’r blodau cyltifar a dyfir yn y gwelyau blodau.
Gyda chymorth gwirfoddolwyr, mae gwyddonwyr yr Ardd wrthi’n ymchwilio ar arferion bwyta’r gwenyn mêl a gwneir hynny trwy astudio’r DNA yn y paill a gesglir ganddynt.