Yng Nghynffig gwelir y planhigyn hwn ar y llacs gwlyb. Dyna’r rhannau isel o’r twyni tywod lle mae lefel trwythiad yn codi’n agos i’r wyneb yn y gaeaf ac yn cwympo yn yr haf.
Mae llawer o lacs gwlyb yng Nghynffig – mae darnau o lifwaddod, clai a mawn o dan y tywod hefyd yn cyfrannu at wneud y twyni tywod hyn yn hynod o wlyb, ac yn llefydd ardderchog i ddod o hyd i flodau prin.