Creigafal y Gogarth

Cotoneaster cambricus

Mae creigafal y Gogarth, Cotoneaster cambricus i’w gael yn un lle yn unig yn y byd, sef y Gogarth yn Llandudno.

Roedd yn niferus ar glogwyni calchfaen ar un adeg, ond roedd mawr alw amdano gan gasglwyr yn Oes Victoria a chasglwyd bron i ddifodiant.  Mae hefyd o dan fygythiad gan gotoneasteriaid anfrodorol sydd wedi dianc o erddi.  Mae’r planhigion gardd yma’n cystadlu’n ffyrnig â’r creigafal gwyllt am le a gall weithiau gymysgu a chreu croesryw.

Rydym wedi bod yn archwilio dosbarthiad a genynnau’r planhigyn prin hwn, gan ddefnyddio techneg lluosogi a enwir yn haenu-yn-yr-awyr, a chasglu toriadau o blanhigion unigol yn y gwyllt er mwyn creu casgliad yn yr Ardd.