Castanwydden y Meirch

Aesculus hippocastanum

Mae chwarae concyrs  yn gêm blant draddodiadol, sy’n cael ei harfer yn llai nag oedd hi wrth i blant chwarae’n llai aml yn yr awyr agored.  Ry’n ni’n casglu concyrs o’r tair castanwydden y meirch yn yr Ardd ar gyfer ein hwythnos o weithgareddau dros wyliau hanner-tymor yr hydref – mae ein cystadleuaeth Concyrs Boncyrs yn boblogaidd dros ben.