Edrychwch am hwn ar wreiddiau’r coed Ghanaidd yn Ngoedwig y Bwganod, ac wedyn ei gyffwrdd. Mae’n edrych fel clust rhywun, ond hefyd mae e’n teimlo’n syndod o debyg i un. Canfyddir y ffwng hynod hwn fel arfer ar goed ysgawen Sambucus nigra.
Mae ei enwau hanesyddol, sef Ffyngau Sambwci a Chlust Judas, yn adlewyrchu hyn – mae William Shakespeare yn sôn yn ei Love’s Labour’s Lost bod Judas Iscariot wedi crogi ei hun ar goeden ysgawen.