Cenhinen-Bedr y Beirdd

Narcissus poeticus var. recurvus

Roedd y genhinen-Bedr hon yn flaenllaw mewn gwaith ymchwil geneteg, a chod genetig hon oedd y cyntaf i gael ei gwblhau’n llwyr.

Mae’r gwaith ymchwil hwn gan y Gymdeithas Arddwriaethol Frenhinol a Phrifysgol Reading yn bwriadu datblygu profion genetig sy’n gallu darganfod mathau ffug sy’n llechu ar silffoedd canolfannau garddio – bylbiau’n cael eu gwerthu gydag enwau anghywir sy’n achosi siom enfawr i arddwyr. Mae cenhinen-Bedr y Beirdd yn arogli’n hyfryd iawn, a chaiff ei thyfu ar gyfer olew hanfodol i’r diwydiant persawr.

Lleoliad: Gardd Tyfu’r Dyfodol