Cenhinen-Bedr Penfro

Narcissus obvallaris

Cenhinen-Bedr Penfro, rhywogaeth y credir gan rai (ond mae dadl am hyn) ei bod yn unigryw i Brydain.

Bu bron iddi ddiflannu o’r tir ar ôl i fylbiau gwylltion gael eu cloddio i fyny ar hyd a lled Cymru er mwyn boddhau chwiw garddio Fictorïanaidd yn hwyr yn y bedwaredd-ganrif-ar-bymtheg.

Mae ganddi flodau melyn gwelw, gyda thrwmped ganolog dywyllach.  Mae’r dail hirion a main yn llwydaidd mewn lliw, ac yn codi o waelod y coesyn.  Edrychwch amdani yng Nghoed y Gwanwyn.