Cenhinen-Bedr Gylchog

Narcissus bulbocodium

Planhigion o Fôr y Canoldir yw rhywogaethau gwyllt cennin-Pedr, a daw’r genhinen-Bedr gylchog o Ffrainc, Sbaen a Phortiwgal.

Rydym yn tyfu’r cymeriad rhyfeddol hwn a mathau eraill o gennin-Pedr gwyllt yn ardal Môr y Canoldir yn y Tŷ Gwydr Mawr. Hwn yw un o’r mathau lleiaf o gennin-Pedr, yn ddim mwy na 15cm o uchder, ac mae’r dail yn gul iawn tebyg i frwyn.

Y Tŷ Gwydr Mawr