Cenhinen Bedr Derwydd

[:en]Narcissus obvallaris 'Thomas Virescent'[:]

Ar y llwybr glaswelltog sy’n arwain i fyny at Y Tŷ Iâ fe ddewch chi o hyd i’r cywreinbeth dwbl-flodeuog hwn, a gredid gan rai ei fod yn hanu o’r pentref cyfagos, Llandybie.

Ond mae eraill yn ei adnabod yn Genhinen Bedr Irlas Thomas, enw cyffredin am Genhinen Bedr dwbl-flodeuog sy’n fwy gwyrdd na melyn mewn lliw.  Mae’r anghydweld hwn yn esbonio efallai pam nad oes enw botanegol swyddogol arno.