Cen Melyn y Cerrig

Xanthoria parietina

Yn aml mae cen yn wyrdd neu’n llwydlas ond mae rhai yn wyn, yn frown, yn ddu neu’n gochlyd – hyd yn oed yn felyn neu’n oren llachar. Achosir y lliwiau hyn gan gemegion, asidau yn aml, a gynhyrchir gan y partner ffyngaidd.

Mae cen melyn y cerrig, Xanthoria parietina, yn lliw oren llachar ac felly’n rhywogaeth hawdd ei hadnabod. Mae’n gyffredin, yn enwedig ar safleoedd sydd wedi’u cyfoethogi â maetholion. Edrychwch amdano ar goed ac ar nifer o greigiau Craig yr Oesoedd, lle mae’n elwa ar faw maethlon yr adar sy’n glanio yno.