Cen Cwpan Eddïog

Cladonia fimbriata

Gwelir cen cwpan eddïog, sef Cladonia fimbriata, yn tyfu ymhlith mwsogl ar glogfeini’r Tywodfaen Coch Defonaidd.

Cludir cyrff hadol y cen hwn mewn coden siâp cwpan (podetia) sy’n debyg i dïau golff bychain.

Ceir rhai rhywogaethau gyda ffrwythau coch sy’n gwneud i’r cen edrych fel matshys. Yn ddiweddar, canfuwyd sylweddau mewn rhai rhywogaethau o Cladonia a allai gyfrannu at driniaeth ar gyfer clefyd arswydus y ‘Gwartheg Gwallgo’ a achosir gan y protein prion.