Castanwydden y Meirch

Aesculus hippocastanum

Gweladwy nawr

Beth am guro'ch ffrind gyda chneuen gastan go arbennig?

Mae chwarae concyrs  yn gêm blant draddodiadol, sy’n cael ei harfer yn llai nag oedd hi wrth i blant chwarae’n llai aml yn yr awyr agored.  Ry’n ni’n casglu concyrs o’r tair castanwydden y meirch yn yr Ardd ar gyfer ein hwythnos o weithgareddau dros wyliau hanner-tymor yr hydref – mae ein cystadleuaeth Concyrs Boncyrs yn boblogaidd dros ben.