Carwy Droellenog

Carum verticillatum

Cewch hyd iddo ar hen ddolydd yn ne-orllewin Cymru ond mae’n brin ar draws gweddill y DU.

Roedd yn brin yn Waun Las hefyd tan i ni flingo rhannau lle roedd brwyn meddal yn tyfu’n drwch ac yna rhoi gwartheg i bori’r tir.

Mae un cae arbennig yn wyn dan flodau’r carwy droellenog yng nghanol yr haf.