Capiau Cŵyr y Ddôl

Hygrocybe spp.

Yng Ngwarchodfa Natur Waun Las mae yna lechwedd lle y cofnodwyd 23 rhywogaeth o gapiau cŵyr.  Mae’r madarch amryliw hyn, rhai ohonyn nhw ag arogl hefyd, yn prinhau’n gyflym yng nghefn gwlad Cymru, gan nad ydyn nhw’n gallu goddef gwrtaith na chael eu haredig.

Ond mae capiau cŵyr y ddôl yn ffynnu ar ddolydd organig Gwarchodfa Waun Las, sy’n cael eu pori gan ddefaid a gwartheg, ac hefyd ar rai o lawntiau’r Ardd.   Cymru yw’r wlad orau yn y byd i weld glaswelltiroedd sy’n gyforiog o gapiau cŵyr.