Blodyn-ymenyn Ymlusgol

Ranunculus repens

Mae sawl math o’r blodyn-ymenyn yn Waun Las. Mae gan y math hwn, sydd â dail a choesynnau blewog, nifer anarferol o betalau. Mae gan bob blodyn-ymenyn 5 petal.

Ond mae’r planhigyn hwn, sy’n gallu byw am gannoedd o flynyddoedd, yn mwtanu wrth iddo heneiddio gan gynhyrchu 6 neu 7 petal. Felly os gwelwch lawer wedi mwtanu fel hyn, mae’n awgrymu nad yw’r ddôl wedi cael ei haredig ers amser maith.