Blogiau'r Ardd

Tyfwyr Byw’n Dda yn Dychwelyd – Adroddiad Paula

gan

Roedd hi’n hyfryd gallu bod nôl yn yr ardd eto, a’r tywydd yn wych hefyd: bendith yn wir.

Roedd hi’n dda gweld pawb, ac rwy’n falch dweud ein bod i gyd yn edrych yr un fath, er fy mod yn dal i ryfeddu at y gwelliant eithriadol yn iechyd Iwan (a oedd mewn cadair olwyn pan ymunodd â’r Tyfwyr Byw’n Dda. Cerddodd yn hyderus i mewn i’r ardd yr wythnos hon heb gymorth ar ôl haf o adferiad gwych).

Roedd natur, fel y bydd ar ei gorau, wedi trefnu cymryd drosodd o ddifrif, ac felly roedd yr ardd wedi mynd yn wyllt iawn yn y 6 neu 7 mis pan fu’n rhaid inni gadw draw. Gwnaeth pawb eu rhan i ddechrau clirio’r chwyn, rai ohonyn nhw’n cyrraedd at fy ysgwyddau. Ond gan fy mod yn fyr doedd hynny ddim yn anodd.  Dechreuodd Carl a finnau glirio’r gwelyau uchel a dechreuodd Iwan glirio’r fynedfa.

Tynnodd Carl rai o’r afalau a oedd yn fawr iawn. Mae’r planhigion mefus yn y gwelyau uchel, fodd bynnag, wedi ffynnu yn ein habsenoldeb er bod rhai creaduriaid bach blewog  mae’n siŵr wedi mwynhau’r ffrwythau. Gobeithio y bydd hyn yn golygu cynhaeaf  trwm flwyddyn nesaf.

Roedd pawb yn cadw’u pellter ac yn siarad yn uchel er mwyn inni gael ein clywed dros y bwlch o 2+ fetr oddi wrth ein gilydd. Roedd camu’n ôl neu i’r ochr er mwyn i bobl allu mynd heibio yn fy atgoffa o chwarae ‘musical chairs’.

Rwy’n ysu am fynd nôl wythnos nesaf eto. Bydd y tyfiant wedi ei dorri’n ôl erbyn hynny, rwy’n credu. Bydd hynny’n wych ac yn golygu y gallwn ganolbwyntio ar baratoi’r gwelyau llysiau yn barod i’w plannu.  Mae angen inni ymchwilio i weld pa lysiau sy’n ddigon gwydn i’w plannu yr adeg hon o’r flwyddyn.